Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n gyfrifol am sicrhau bod datganoli’n gweithio’n esmwyth yng Nghymru. Mae’n cynrychioli buddiannau Cymru o fewn Llywodraeth y DU ac mae’n cynrychioli Llywodraeth y DU yng Nghymru.
Ers 1999, gwnaed nifer o benderfyniadau ynghylch faterion Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghaerdydd. Mae gan y Cynulliad bwer i wneud penderfyniadau ar amrediad o faterion yn ymwneud â: economi, addysg, iechyd, cynllunio, cludiant a thwristiaeth. Penderfynir ar faterion eraill gan adrannau yn Whitehall.
Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol yr hawl i fynychu a siarad mewn sesiynau yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’n derbyn Cyllideb Cymru drwy’r Llywodraeth ac mae’n rhaid iddo wedyn ei throsglwyddo i’r Cynulliad, heblaw am yr hyn y mae ef ei angen i gynnal ei swyddfa.
Rhaid iddo hefyd ymgynghori â’r Cynulliad ynghylch raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Mae hefyd yn gyfrifol am lywio deddfwriaeth sy’n ymwneud â Chymru’n unig drwy’r Senedd.
Dyma restr o weinidogion sy’n gweithio i’r Adran.
Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau
Y Gwir Anrhydeddus Paul Murphy
Cyfrifoldebau:
- Cyfeiriad strategol cyffredinol
- Cyswllt â’r Cynulliad
- Materion cyfansoddiadol
- Pwerau Deddf Llywodraeth Cymru (gan gynnwys etholiadau’r Cynulliad)
- Cyllid
- Ewrop
- Datblygiad Economaidd
- Apwyntiadau Cyhoeddus
- Amgylchedd
- Treftadaeth Cymru
Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol
Huw Irranca-Davies AS
Cyfrifoldebau:
- Datblygiad Rhanbarthol
- Gwasanaethau Cymdeithasol
- Tai
- Iechyd
- Addysg a Hyfforddiant
- Cludiant
- Amaethyddiaeth
- Llywodraeth Oes Gwybodaeth
- Atal Troseddau Llywodraeth Leol
- Materion Merched a materion Gwyrdd
Adran Gyswllt
Gallwch ysgrifennu at Swyddfa Cymru yn:
Gwydyr House,
Whitehall,
London SW1A 2ER
Ffôn: 020 7270 0534
Cysylltiadau defnyddiol
- Swyddfa Cymru (yn agor mewn ffenestr newydd)
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru (yn agor mewn ffenestr newydd)

delicious
digg
facebook

